Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Cosyn

Angharad Tomos  Llyfrau eraill gan Angharad Tomos

Stori ddoniol wedi ei darlunio'n lliwgar gan awdur poblogaidd, am lygoden fach yn peri trafferth i drigolion Gwlad y Rwla; i blant 3-5 oed. Mae llyfr mawr cyfatebol ar gael.

ISBN: 0862435552

Adran: Plant

Iaith: Cymraeg

Rhan o'r cyfres: Rwdlan

£2.95     




Adolygiadau

  "Da gweld Angharad Tomos yn dychwelyd i Wlad y Rwla ac at y cymeriadau hynny sydd wedi rhoi'r fath bleser i blant – ac oedolion – dros y blynyddoedd. Yma mae cymeriad newydd sbon – llygoden fach o'r enw Cosyn – yn creu hafog i'r Dewin Doeth a Rala Rwdins ond y mae, wrth gwrs, yn bennaf ffrind i Rwdlan a'r Dewin Dwl.
Unwaith eto dengys yr awdures ei hadnabyddiaeth o'r hyn sy'n apelio at blant bach – cymeriadau gwreiddiol a gwahanol, ymhyfrydu mewn iaith a sŵn geiriau, a hiwmor sydd fel arfer yn seiliedig ar y ffaith fod y rhai bach yn tanseilio awdurdod y rhai sy'n meddwl eu bod yn gwybod yn well. Er enghraifft, bydd plant yn siŵr o fod wrth eu bodd â'r disgrifiad o'r Dewin Doeth yn dawnsio'i ddawns ryfedd 'a thrap yn sownd wrth fawd ei droed'.
Fel gweddill y gyfres mae'r fformat yn un hwylus i ddwylo bychan a'r darluniau'n lliwgar, clir a llawn doniolwch. Am £2.95 dyma ychwanegiad gwerth chweil i hosan Nadolig unrhyw blentyn bach.
" - Esyllt Penri, Gwales.com




Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304