Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Clawr | Cover

Ar Drywydd Waldo (Ar Gewn Beic)

Hefin Wyn  Llyfrau eraill gan Hefin Wyn

Ni wnaeth Waldo Williams erioed yrru car. Ond seiclodd filoedd o filltiroedd ymhob tywydd. Pa well ffordd, felly, o geisio dod i adnabod y dyn ei hun nag i ddilyn ei drywydd ar gewn beic?

Dyma bortread anghyffredin o Waldo - yr athro ysgol, y bardd, yr heddychwr, y gwladgarwr, y Crynwr a'r seiclwr. Penderfynodd Hefin Wyn, gyda chymorth Teifryn Williams, sy'n nai i Waldo, fynd ar bererindod a seiclo o Sir Benfro i Ben Llyn, i Lundain a draw i Iwerddon.

Ar hyd y daith, cawn gyfarfod â'r bobl oedd yn adnabod Waldo. Down i wybod am ei edifeirwch wedi iddo gosbi disgyblion ysgol ac am ei berthynas â'i gyfaill D.J.Williams, a oedd, ar adegau, yn danllyd. Gwirfoddolodd i dderbyn triniaeth seiciatryddol mewn ysbyty am ddeg mis ac ystyried symud i Ffrainc, yn ogystal â cheisio am swydd ddysgu yn Iwerddon. Roedd ei brofiadau yn y carchar am wrthod talu treth incwm yn rhan o'r broses o buro'i galon. Dyrchafodd ei hun i ddistadledd sant yn y pen draw.

ISBN: 9781847714923

Adran: Cofiannol

Iaith: Cymraeg

£14.95     







Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304