| Bore Da Gwennan Evans Llyfrau eraill gan Gwennan Evans
Mae Alaw Mai wedi cael llond bol o weithio fel cynhyrchydd ar raglen foreol Pawb FM. A hithau wedi rhoi pymtheg mlynedd o wasanaeth i Richie Edwards ar Bore Da, Rich, mae Alaw bellach yn bored 'da Rich. Pryd ddaw ei chyfle hi i serennu?
Mae bywyd yn rhy fyr i gael ei bwlio gan y cyflwynydd hunanbwysig, ac i drafod gwau a chryd cymalau gyda'r gwrandawyr. Mae angen newid cyfeiriad arni, ac yn fwy na dim, mae angen dyn!
Ar ôl rhaglen waeth na'r arfer, mae'n penderfynu cyflwyno ei llythyr ymddiswyddo i Catrin "Fat Cat" Rowlands - pennaeth yr orsaf. Ond dyw'r gath dew ddim am wneud pehtau'n hawdd i Alaw ac mae hithau hefyd yn chwilio am ddyn arall i wneud iddi ganu grwndi.
Nofel sy'n llawn hiwmor crafog, cymeriadau bywiog a stori sy'n symyd yn gyflym o un tro trwstan i'r llall.
ISBN: 9781847714664
Adran: Arddegau
Iaith: Cymraeg
Rhan o'r cyfres: Cyfres y Dderwen
£5.95
Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma fel eLyfr, pris: £5.95 Ffurf(iau) ar gael: .epub; Beth yw 'epub'?
Mwy am eLyfrau Y Lolfa
|
|