| Rhyw Fath o Ynfytyn Lleucu Roberts Llyfrau eraill gan Lleucu Roberts
Eiliad o wallgofrwydd...
Dyna oedd hi i Patrick, gwr cyffredin mewn sefyllfa amhosib.
Yn ei orffennol pell, fe ildiodd i wres y foment ac fe newidiodd hynny bopeth.
Nawr, mae e'n byw yn y ddinas, yn wr ac yn dad parchus ac yn wyddonydd llwyddiannus. Ond fedrith e ddim dianc rhag ei atgofion ac mae newyddion annisgwyl ei fab yn bygwth datgelu'r gwir arswydus.
Eiliad o wallgofrwydd...
Mae Efa'n byw gyda hynny yn ei chartre yng nghefn gwlad. Mae hi'n trio bod yn fam gydwybodol o ddydd i ddydd. Ond pa fath o fam fedrith hi fod heb neb i ddangod esiampl iddi? Fyddai hi byth eisiau gwneud dim i frifo ei merch. Ac eto, yng ngwres y foment...
Dyma nofel ddirdynnol am gymeriadau cryf sy'n cael eu bygwth gan gysgodion y gorffennol. Bydd yn rhaid eu hwynebu cyn y diwedd, er y bydd hynny'n eu hysgwyd nhw am byth.
ISBN: 9781847713742
Adran: Ffuglen
Iaith: Cymraeg
£7.95
Gellir lawrlwytho'r cyhoeddiad yma fel eLyfr, pris: £7.95 Ffurf(iau) ar gael: .epub; Beth yw 'epub'?
Mwy am eLyfrau Y Lolfa
|
|