Hafan | Home
Y Lolfa - Gwasg fywiocaf Cymru
Talybont  Aberystwyth  Ceredigion  Cymru/Wales  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ffacs 832 782   ylolfa@ylolfa.com
Chwilio am lyfr

chwilio manwl


Hanes y Gan



Ar Fawrth y Cyntaf 2005 r'oedd Gwenno Dafydd yn cerdded yn ail 'Gorymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi' (GGGD) yng Nghaerdydd ac yn cario ac yn canu cloch ddur drwm oedd yn gopi o'r clychau oedd Dewi Sant yn eu defnyddio. Roedd y gof, Dave Petersen wedi gwneud chwech o'r rhain i'r union batrwm a ddefnyddiai Dewi Sant yn ei amser. Cafodd Gwenno fflach o ysbrydoliaeth yng nghanol Heol y Santes Fair (St. Mary Street) fod angen cân arbennig ar gyfer yr achlysur ac aeth ati i sgwennu geiriau cyntaf 'Cenwch y Clychau i Dewi'. Aeth a'r geiriau at Heulwen Thomas, athrawes ffidil beribatetig yng Nghaerdydd ac fe ysgrifennodd Heulwen y don.

Perfformiwyd y gan, gyda chaniatâd Pwyllgor Llywio Gorymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi, (GGGD) gan Gwenno a Heulwen yng Ngorymdaith 2006 (Gwenno yn canu a Heulwen yn chwarae'r allweddellau) Dim ond pennill a chytgan yn Gymraeg a Saesneg oedd y gan bryd hynny.

Yn dilyn llwyddiant y gan yn 2006 a gwahoddiad gan y Pwyllgor i'w defnyddio y flwyddyn olynol, aeth Gwenno ati i gwblhau fersiwn gyflawn o'r geiriau yn Gymraeg a Saesneg. Cafodd y rhain eu hysgrifennu lawr yn Nhy Ddewi, (yng ngharafán teulu Gwenno) gyferbyn a mynydd Carn Llidi lle'r oedd Dewi Sant arfer troedio.

Ysgrifennodd Gwenno eiriau yn Saesneg yn arbennig ar gyfer y bobl a'r ysgolion Di - Gymraeg sydd yn falch iawn o'u Cymreictod, eisiau ei ddathlu ond efallai ddim wedi cael y cyfle i ddysgu'r iaith, er mwyn iddyn nhw hefyd allu canu'r gan yn yr iaith sydd fwyaf cyffyrddus iddyn nhw er mai'r fersiwn Gymraeg yw'r fersiwn swyddogol sydd yn cael ei defnyddio yn yr Orymdaith.

Yng Ngorymdaith 2007 cafodd y gan ei pherfformio gan blant 'Ysgol Gymraeg Treganna' ar ddechrau'r Orymdaith tu allan i dafarn y Mochyn Du ac Ysgol Gynradd Mountstuart, Bae Caerdydd ar ddiweddglo'r Orymdaith wrth yr Amgueddfa Genedlaethol ym Mharc Cathays, Caerdydd. Cafodd y gan dderbyniad gwresog iawn ac yn fuan wedyn cafodd y gan ei mabwysiadu gan Bwyllgor Llywio GGGD fel can swyddogol GGGD.

Yn ei gwaith fel athrawes ffidil beripatetig o amgylch ysgolion Caerdydd, r'oedd Heulwen Thomas yn cael ymaterb ffafriol iawn gan yr athrawon i glywed am y gan ac roedd nifer helaeth ohonynt yn awyddus iawn i ddysgu cân newydd sbon danlli ar gyfer Dydd Gwyl Dewi. Darparwyd copis ohoni iddynt gan Gwenno a Heulwen a cafwyd ei pherfformio yn helaeth.

Yn dilyn ymateb positif iawn yr ysgolion a'r plant i'r gan, edrychodd Gwenno o gwmpas i ffeindio ffordd rhwyddach a mwy effeithiol o ddarparu'r gan i ysgolion na ricordio c.d's a neidio ar ei beic a mynd a nhw i'r ysgolion fesul un! Trwy gyfaill yn y byd addysg, fe glywodd Gwenno am y Grid Genedlaethol ar Gyfer Dysgu (GCaD) oedd yn paratoi a darparu adnoddau rhwydweithiol i gefnogi'r Cwriciwlwm Cenedlaethol.

Aeth Gwenno a'r gan at Dafydd Watcyn Williams – Cyfarwyddwr Cynllun y Grid ac fe benderfynodd Dafydd ddefnyddio'r gan fel canolbwynt cynllun o adnoddau rhwydweithiol addysgiadol helaeth newydd ar Dewi Sant a'i fywyd. Bu Jane Altham Watkins, Swyddog Maes y Grid yn paratoi defnydd addysgiadol ac fe fu Christa Richardson yn dylunio golygfeydd o fywyd a gwaith Dewi Sant.

Recordiwyd y gan ym mis Tachwedd 2007 gan blant Ysgol Penygarth yn yr ysgol gan James Clark o 'Ty Cerdd' (Stiwdio recordio sydd yn rhan o Ganolfan y Mileniwm) gyda Heulwen Thomas yn cyfeilio. Y Brifathrawes Mrs.Iona Edwards a Mrs. Alwena Harries fu yn hyfforddi'r plant. Cafodd yr ol-gynyrchu a'r traciau cefndirol eu gwneud yn Ty Cerdd, stiwdio yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Cafodd 'Cenwch y Clychau i Dewi' a chynllun pecyn rhwydweithiol Dewi Sant y Grid Cenedlaethol ei lawnsio yn y Cynulliad ar y 31ain o Ionawr 2008 gan Y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, ym mhresenoldeb Arglwydd Faer Caerdydd, Y Cynghorydd Gill Bird. Cyrhaeddodd Ysgol Penygarth Y Senedd mewn cwch ar draws Bae Caerdydd ac fe gannodd y plant y gan yn Gymraeg o flaen cynulleidfa eang yn Adeilad y Pierhead.

Yn dilyn awgrym gan Gwenno Dafydd, cyflwynwyd cwpan 'Gwnewch y Pethau Bychain' i'r Brifathrawes, Mrs. Iona Edwards, ar ran y Grid Genedlaethol, i'w rhoi bob Dydd Gwyl Dewi i'r plentyn sydd ddim efallai yn 'geffyl blaen' ond sydd o'i ymdrechion bychan (fel Dewi Sant) yn gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau eraill.

Yn dilyn y lawnsiad, fe fydd y gan ar gael ar y Grid yn Gymraeg a Saesneg bob adeg Dydd Gwyl Dewi o hyn ymlaen. Roedd dwy fersiwn o gyfeiliant y gan, un gyda'r felodi wedi ei amlygu gyda ffliwt a'r llall gyda'r cordiau yn unig, ar gael yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho yn ystod y flwyddyn gyntaf. Fe fydd pob ysgol yng Nghymru yn gallu defnyddio'r gan yma a'i dysgu ar gyfer eu cyngherddau Dydd Gwyl Dewi yn y dyfodol os ydynt yn dewis, unai yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Cafodd y gan dderbyniad gwresog iawn nid yn unig gan ysgolion Cymru drwy'r Grid Cenedlaethol, ond o bedwar ban byd a bu llawer yn gofyn am gopi maniwscript er mwyn gallu eu dysgu. Fe roddwyd fersiwn dwyieithog maniwscript piano a llais at ei gilydd gan Gwenno Dafydd a Heulwen Thomas i'r perwyl yma.

Yn dilyn hyn, fe gomisiynwyd Eilir Owen Griffiths, wnaeth ennill Medal Aur y Cyfansoddwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008, i wneud 3 trefniant i Gôr Cymysg, Côr Meibion a Côr Merched ac fe gafodd y fersiynau yma i gyd yn cael eu lawnsio ar Chwefror y Cyntaf 2009 gan Bryn Terfel a Tim Rhys Evans ac mae nhw nawr ar werth drwy wefan Y Lolfa www.ylolfa.com o'r 5ed o Chwefror ymlaen, sgwp hanesyddol iddyn nhw fel cwmni mewn gwirionedd, achos dyma'r tro cyntaf i faniwscript neu lyfr Cymraeg gael ei gwerthu fel lawrlwythiad.

Mae diddordeb fyd eang wedi bod ynddi gan Gymdeithasau Cymru ar Wasgar ac fe gafodd ei pherfformio nid yn unig ar ddechrau yr Orymdaith yng Nghaerdydd gan Gwenno Dafydd a phlant Ysgol Gymraeg Penygarth ond hefyd canodd parti arddegau y gan dan arweiniad Gladys Thomas mewn cyngerdd yn y Gaiman ym Mhatagonia, ac mewn cyngerdd yn Hwlffordd gan blant Ysgol Gynradd Casblaidd. Cafodd y gan ei chlywed yng Nghaerfyrddin ac Abertawe yn ystod taith flynyddol neges Archesgob Ty Ddewi i'r bobl sy'n dod ar yr Orymdaith.

Bu perfformiad ar yr organ yn ystod Gwasanaeth Arglwydd Faer Caerdydd ar Ddydd Gwyl Dewi, yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Cafodd ei chwarae yn helaeth ar dair sianel radio yn America, (IRFT,WRFG a WWPV) Radio a theledu y BBC - Radio Cymru a Radio Wales, trwy Dydd Gwyl Dewi ar sgrins plasma cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ogystal â dros yr uchelseinyddion ym Mharc Ninian o flaen 12,000 o gynulleidfa gem pêl droed.

Mae nifer fawr o bobl (gan gynnwys sawl côr, Band Tarian Wdig ac Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi) wedi dangos diddordeb mawr yn y gan ar gyfer y dyfodol ac mae'n cael ei chyfieithu ar hyn o bryd i mewn i'r iaith Llydaweg. Mae un côr aeth i Efrog Newydd i gynrychioli Cymru adeg Dydd Gwyl Dewi y flwyddyn yma yn awyddus iawn i'w pherfformio yna ar eu hymweliad (sydd eisoes wedi ei gadarnhau) ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Fe recordiodd Gwenno Dafydd gopi llais a phiano o'r gan yn Gymraeg a Saesneg yn stiwdio Ty Cerdd, Canolfan y Mileniwm ar y 6ed o Fai 2008 gyda James Clarke yn beiriannydd sain. Fe fydd y fersiynau yma yn ogystal â'r traciau cefndirol ar gael yn fuan iawn drwy wefan www.downloadfactor.com

Baner Sir Benfro
Cafodd Gwenno Dafydd, sydd nid yn unig yn ysgrifennu geirie i ganeuon ond sydd hefyd yn gantores jazz, gyngerdd yn Theatr Gwaun, Abergwaun ar yr 20fed o Fawrth 2008. Gaynor McMmorrin wnaeth drefnu'r cyngerdd ar ran Cymdeithas Gelfyddydau Abergwaun a dywedodd Gwenno wrthi am ei syniad o gael baner o Sir Benfro i gyd-deithio i'r Orymdaith Genedlaethol bob blwyddyn gyda neges Dydd Gwyl Dewi o'r Eglwys Gadeiriol yn Nhyddewi a'i dymuniad o gael y merched fu'n gyfrifol am dapestri enwog dau-ganmlwyddiant Glaniad y Ffrancod i fod ynghlwm a'r syniad.

Roedd Gaynor yn frwdfrydig tu hwnt am syniad Gwenno ac fe aeth ati fel lladd nadroedd i hel criw o ferched allweddol at ei gilydd, gan gynnwys Audrey Walker ac Eirian Short, dwy o'r tair gwraig wnaeth gynllunio tapestri enwog Abergwaun, ac sydd ill-dwy yn adnabyddus yn rhyngwladol am eu gwaith brodio celfydd.

Audrey ac Eirian fydd yn gyfrifol am gynllun y faner ac fe fydd Adran Sir Benfro o'r Gild Frodio o dan ofalaeth Glesni Williams yn gyfrifol am wneud y gwaith pwytho. Gaynor fydd yn gyfrifol am gael nawdd a phenodwyd Heulwen Reynolds, sy'n athrawes decstilau yn Ysgol Abergwaun ac sydd yn arddangos ei gwaith yn 'Craft in the Bay' fel Cydlynydd y Cynllun.

Hon fydd 'Baner Sir Benfro' a'r bwriad yw defnyddio rhai o eiriau'r gan a'i delweddau gweledol fel rhan ganolog o wneuthuriad y faner, fydd yn ddarn unigryw o gelf wedi ei wneud gan grefftwragedd lleol i gynrychioli Sir Benfro ar Orymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi.

O fewn amser, mae'n bosib mai hon fydd y faner gyntaf mewn cyfres o faneri sirol sydd wedi cael eu trefnu ar draws Cymru gan Gild y Brodwragedd. Mae nifer helaeth o aelodau y Gild eisioes wedi dangos diddordeb i ddilyn ôl pwythau merched Sir Benfro ac i greu eu Baneri Sirol unigryw eu hunain ar gyfer Gorymdaith Genedlaethol Gwyl Dewi, i gyd wedi eu selio ar y gan swyddogol.

Fe fydd Baner Sir Benfro yn cael ei chadw yn barhaol mewn cartref teilwng a phriodol yng Ngogledd Sir Benfro.

Cynhaliwyd gyfarfod cyntaf Pwyllgor Llywio y Faner yn nhŷ Audrey Walker yn Cwm-yr-Eglwys ar y'r 28ain o Fai 2008. Ers dechrau mis Medi 2008 mae aelodau o Gymdeithas y Brodweithwyr, Cangen Sir Benfro yn cwrdd dwywaith yr wythnos unai yn Adeilad Bloomfield yn Arberth neu yng nghartref un o'r merched. Mae Baner Sir Benfro bron a chael ei chwblhau ac fe fydd yn cael ei lawnsio yn swyddogol yn Oriel Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bae Caerdydd ar y 19eg o Chwefror 2009.

Wedi clywed am ddatblygiadau Baner Sir Benfro, mae'r Grid Genedlaethol ar gyfer Dysgu (GCaD) hefyd wedi dangos diddordeb mawr i gael cystadleuaeth i gynllunio baneri ysgol tebyg ar hyd a lled Cymru, gyda'r bwriad y bydd y baneri yn cael eu defnyddio yn nathliadau Dydd Gwyl Dewi yr ysgolion.

Yn dilyn llwyddiant y pecyn o adnoddau rhyngweithiol ar fywyd a gwaith Dewi Sant ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen a ddatblygwyd y flwyddyn diwethaf, mae GCaD Cymru wedi creu ac ychwanegu pecyn newydd o adnoddau i Gyfnod Allweddol Dau yn ogystal a Phecyn Addysgiadol i blant ag Anghenion Addysgiadol Arbennig.


Am wybodaeth pellach cerwch i:

www.fishguardartssociety.org.uk/ThePembrokeshireBanner.html

www.stdavidsday.org

http://www.ngfl-cymru.org.uk/ neu http://www.gcad-cymru.org.uk/vtc/ngfl/2007-08/wsl/irf23/dewi_sant_mp3/c_index.html (am leoliad gwbl gywir o'r gan)

www.ylolfa.com

www.downloadfactor.com



Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304