Talybont  Aberystwyth
Ceredigion  Cymru  SY24 5HE
+44(0) 1970 832 304
ylolfa@ylolfa.com
chwilio am lyfr

chwilio manwl


Cyhoeddiadau am : Awdur = Gwynfor Evans

Gwynfor Evans

Mae Gwynfor Evans yn perthyn i griw dethol o bobl a heriodd Margaret Thatcher ac ennill yn ei herbyn. Cafodd ei gynddeiriogi wedi iddi dorri ei gair ynglyn â sefydlu S4C ym 1980 a bygythiodd newynu i farwolaeth. Roedd hynny'n ddigon i beri i'r "Ddynes Haearn" newid ei chân am unwaith.

Fel ymgyrchydd diflino ar faterion fel yr iaith a hunaniaeth ddiwylliannol, digon annisgwyl oedd cefndir Gwynfor. Roedd yn fab i berchennog siop adrannol yn y Barri, tref y dociau yn y de, a ddysgodd Gymraeg pan yn oedolyn.

Yng ngholeg y Brifysgol Aberystwyth y daeth gwleidyddiaeth Gwynfor Evans i'r amlwg. Sefydlodd gangen Plaid Cymru, a oedd yn blaid ymylol ar y pryd, a oedd yn cael ei chysylltu'n bennaf ag ymgyrchoedd uniongyrchol a argymhellwyd gan yr awdur a'r ysgolhaig Saunders Lewis. Roedd Gwynfor yn heddychwr a wrthododd wasanaethu'n yr Ail Ryfel Byd.

Ym 1945, daeth yn Llywydd ar y blaid, a dechreuodd ei ymgyrch yn erbyn boddi pentref Cwm Celyn ger y Bala - cynllun a fyddai'n darparu dwr i Lerpwl. Er i'r ymgyrch fod yn aflwyddiannus, bu'n fodd i amlygu'r bygythiad cynyddol i gymunedau Cymraeg a'r iaith ei hunan.

Daeth ei awr fawr ym 1966 pan alwyd isetholiad yng Nghaerfyrddin. Yn gwbl annisgwyl, enillodd Gwynfor Evans a Phlaid Cymru fuddugoliaeth ysgubol. Dangosodd ganlyniad Caerfyrddin fod Plaid Cymru yn awr yn rym gwleidyddol pwysig. - Oddi ar wefan www.100arwyrcymru.com

Gwefan

Darganfuwyd 5 cofnod.

Llyfrau Cymraeg
Ewch | Go
£2.00

Diwedd Prydeindod   (Gwynfor Evans)
Cyfres y Cynulliad. Pamffled Wleidyddol yn trafod agweddau o fywyd Cymru gyda sylw arbennig i gyfrifoldebau'r Cynulliad ...

Ewch | Go
£4.95

Pe Bai Cymru'n Rhydd   (Gwynfor Evans)
Cymharu Cymru â naw gwlad fach Ewropeaidd sydd wedi ennill mesur o ryddid cenedlaethol yn cynnwys Estonia a Latfia...

Llyfrau Saesneg
Ewch | Go
£7.95

Fighting for Wales   (Gwynfor Evans)
Dyma un o wleidyddion pennaf Cymru yn arolygu rhai o ymgyrchoedd cenedlaetholgar y ganrif hon ac yn archwilio'r consesiy...

Ewch | Go
£12.95

Land of My Fathers   (Gwynfor Evans)
Cyfrol gynhwysfawr, 500-tudalen, darluniadol o hanes Cymru sydd wedi profi i fod yn glasur.

Ewch | Go
£6.95

The Fight For Welsh Freedom   (Gwynfor Evans)
Cyflwyniad hawdd-ei-darllen i 2,000 o flynyddoedd o hanes Cymru yn cynnwys portreadau cryno o arwyr Cymru drwy'r oesau a...




Chwilio'r catalog am: neu gyfuniad o'r meysydd isod:
ISBN neuAllweddair
AwdurTeitl



Y Lolfa, Talybont, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru/Wales SY24 5HE     +44(0) 1970 832 304