Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Newyddion

Codi'r llen ar Hiwmor Tri Chardi

Codi'r llen ar Hiwmor Tri Chardi

Mae cyfrol newydd, Hiwmor Tri Chardi Llengar, yn codi’r llen ar dri Chardi amlwg oedd yn ffrindiau pennaf – William Morgan (Moc) Rogers, Tegwyn Jones a Hywel Teifi Edwards.  darllen mwy

Nofel feiddgar newydd i'r arddegwyr gan Megan Angharad Hunter
Llyfr i ferched ifanc sy'n torri tir newydd

Llyfr i ferched ifanc sy'n torri tir newydd

Mae tyfu i fyny a chael pen ffordd yn eich arddegau wedi bod yn heriol erioed. Yr wythnos hon, cyhoeddir llyfr gwybodaeth wreiddiol i ferched 8 i 12 oed – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg – sy’n anelu at ateb rhai o’r cwestiynau bythol sy’n codi yn ystod yr arddegau.  darllen mwy

Myfyrdodau onest, cynnes a real ar groesi sawl trothwy mewn bywyd
“Llais ffres ac egnïol
Cyfrol yn dathlu canmlwyddiant deiseb heddwch menywod Cymru

Cyfrol yn dathlu canmlwyddiant deiseb heddwch menywod Cymru

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol ddwyieithog amlgyfrannog sy’n rhannu stori ryfeddol Deiseb gan fenywod Cymru am heddwch byd. Roedd y Ddeiseb, a ddechreuwyd yng nghysgod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn gofyn i fenywod America i gydweithio â nhw yn enw heddwch, ac fe’i llofnodwyd hi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru – canran sylweddol y boblogaeth ar y pryd.  darllen mwy

Cyfres newydd gyfoes i helpu plant ddysgu darllen

Cyfres newydd gyfoes i helpu plant ddysgu darllen

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfres newydd sbon - cyfres o bum llyfr llun a gair i helpu plant ddysgu darllen. Mae Cyfres Celt y Ci (Y Lolfa) gan Rhiannon Wyn Salisbury a’r artist Elin Vaughan Crowley, wedi ei gosod ar fferm ddychmygol yng nghefn gwlad Cymru.  darllen mwy

Antur newydd yng nghyfres boblogaidd Casia Wiliam!

Antur newydd yng nghyfres boblogaidd Casia Wiliam!

Yr wythnos hon, mae Sara Mai yn ôl gydag antur newydd sbon. Mae Sara Mai ac Antur y Fferm (Y Lolfa) gan Casia Wiliam, yn ddilyniant i Sw Sara Mai a Sara Mai a Lleidr y Neidr. Mae’r ddwy nofel gyntaf wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n-Og (2021 a 2022), a bu i’r nofel gyntaf gipio’r Wobr yn 2021.  darllen mwy

Y Lolfa yn ailgyhoeddi clasur am chwedlau Cymru

Y Lolfa yn ailgyhoeddi clasur am chwedlau Cymru

Yr wythnos hon cyhoeddir fersiwn diwygiedig o glasur Cymraeg, sef Chwedlau Gwerin Cymru, gan Robin Gwyndaf (Y Lolfa). Yn wreiddiol fe’i cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1989 – cofnod holl bwysig o draddodiad y stori werin yng Nghymru.  darllen mwy

Dwdls i ysbrydoli siaradwyr newydd

Dwdls i ysbrydoli siaradwyr newydd

Mae llyfr newydd o’r enw Dwdls Cymraeg gan yr Athro Oliver Turnbull, yn olrhain taith dysgwr trwy cyfres o ddŵdls. Mae’r dwdls yn amlygu mewn ffordd ysgafn rai o’r heriau sy’n wynebu siaradwyr newydd, yn enwedig wrth gaffael iaith. Daeth y llyfr at ei gilydd gyda chymorth Dr Llion Jones a thiwtoriaid Cymraeg Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ac o dan nawdd Ecoamgueddfa Llŷn.  darllen mwy

Nofel lawn troeon a hiwmor sy'n ddihangfa pur!

Nofel lawn troeon a hiwmor sy'n ddihangfa pur!

Mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun fel brenhines y nofel boblogaidd Gymraeg, ac ni fydd ei stori newydd Dros fy Mhen a ’Nghlustiau yn siomi! Mae’n nofel afaelgar, sy’n llawn hiwmor a throeon, ac fel sawl un o nofelau yr awdures mae’n chwarae gyda’r syniad o ffawd.  darllen mwy

Gladiatrix: Bethan Gwanas yn rhoi llwyfan i'r merched yn Oes y Rhufeiniaid mewn nofel newydd
Antur newydd i Griw'r Coed a phecyn adnoddau i athrawon

Antur newydd i Griw'r Coed a phecyn adnoddau i athrawon

Mae’r archarwyr Criw’r Coed yn ôl gydag antur newydd. Criw’r Coed a’r Draenogod ydi’r ail lyfr yn y gyfres gan Carys Glyn a Ruth Jên. Mae’r llyfr yn dysgu plant Cymru sut i helpu draenogod i grwydro’n rhydd eto. Mae’r awdures a’r artist yn gobeithio bydd y gyfres yn agor llygaid plant at ryfeddodau byd natur a’u helpu i ddeall bod ganddynt y gallu i wneud gwahaniaeth.  darllen mwy

Ditectif newydd yn ffurfafen ffuglen Gymraeg
Nofel i’r Arddegau Sy’n Trafod y Profiad o Fod yn Wahanol
Y Llyfr 'Awdurdodol' ar Hanes Boddi Cwm Tryweryn

Y Llyfr 'Awdurdodol' ar Hanes Boddi Cwm Tryweryn

Mae’r gyfrol ‘awdurdodol’ hon ynghylch Tryweryn yn herio ‘chwedlau’ a safbwyntiau cryfion am foddi’r Cwm Cymreig. Beth bynnag fo’r cymhlethdodau yn ymwneud â boddi Cwm Tryweryn, caiff adeiladu Llyn Celyn ei ystyried yn eang fel digwyddiad nodedig yn hanes Cymru. Mae’r stori yn cyffwrdd â chalonnau pobl Cymru mewn ffordd hollol unigryw, ac o’r diwedd, wedi ugain mlynedd o ymchwil, mae’r awdur Wyn Thomas wedi ysgrifennu astudiaeth fanwl arni i’w gyhoeddi gan Y Lolfa, gan gwestiynu sawl barn gyffredin.  darllen mwy

Ail gyfrol hudol i’r Harry Potter Cymraeg – mae Cadi Goch yn ei hôl!

Ail gyfrol hudol i’r Harry Potter Cymraeg – mae Cadi Goch yn ei hôl!

Mae Cadi Goch a’r Crochan Hud newydd ei rhyddhau gan wasg y Lolfa. Dyma’r ail nofel sy’n dilyn anturiaethau Cadi Goch a’i ffrindiau yn yr ysgol swynion yn Annwfn, Gwlad y Tylwyth Teg. Mae Cadi yn dechrau amau bod cynllwyn ar droed i ddwyn crochan hynafol sy’n cael ei arddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a’i ddefnyddio i greu byddin anorchfygol er mwyn gosod ei mam, y frenhines greulon, ar orsedd Annwfn.  darllen mwy

Mewn fila crasboeth yn Umbria, mae cymeriadau’n tynnu’n groes, a chyfrinachau’n bygwth berwi drosodd…

Mewn fila crasboeth yn Umbria, mae cymeriadau’n tynnu’n groes, a chyfrinachau’n bygwth berwi drosodd…

Nofel yw hon am gwmni’n dod at ei gilydd am bythefnos o wyliau mewn un fila yn Umbria – yn deulu, ffrindiau a chydnabod. Bydd rhai yn cyfarfod ei gilydd am y tro cyntaf, eraill yn hen gyfarwydd ag antics y naill a’r llall, ac mae’n amlwg o’r dechrau bod tensiwn yn mudferwi. Ond mae’r lleoliad yn ddelfrydol, a diwylliant yr ardal yn drawiadol, heb sôn am yr awyr ddigwmwl sy’n cyfarch pawb bob bore. Beth all fynd o’i le, mewn difrif?  darllen mwy

‘Cadwa’n driw i ti dy hun’ - Neges Caryl Lewis yn ei llyfr newydd i blant

‘Cadwa’n driw i ti dy hun’ - Neges Caryl Lewis yn ei llyfr newydd i blant

Mae gwasg y Lolfa newydd ryddhau Guto a Dreigiau'r Nos gan Caryl Lewis. Dyma lyfr am fachgen ifanc sydd â ffrindiau anghyffredin, sef dreigiau amryliw ac amrywiol, ac mae ganddo feddwl mawr ohonynt, bob un. Yr unig broblem ydi, nid pawb sy'n gallu gweld y dreigiau hyn, ac mae cyfeillion Guto sy'n chwarae pêl dan y coed yn mynnu y dylai anghofio am 'ei ddraig wirion.'  darllen mwy

Llyfr i arfogi plant a phobl ifanc yn wyneb pwysau cynyddol y cyfryngau cymdeithasol

Llyfr i arfogi plant a phobl ifanc yn wyneb pwysau cynyddol y cyfryngau cymdeithasol

Mewn oes sy’n gynyddol dechnolegol, mae gallu technoleg i ehangu gorwelion ein bydoedd yn syfrdanol. Ond, mae hynny’n aml yn dod â phris gan bod yna lawer o bethau negyddol all godi yn sgil y datblygiadau diweddaraf ym myd y cyfryngau cymdeithasol. Mae hi’n dipyn o gamp gwybod sut i fynd ynglŷn â’r heriau hyn, ac yn aml iawn, rydyn ni’n teimlo’n rhwystredig, ar goll, ac yn llawn pryder oherwydd y cymhlethdod, ac eisiau cymorth gan ffynhonnell ddiogel a dibynadwy.  darllen mwy

21-40 o 347 1 2 3 4 5 . . . 18
Cyntaf < > Olaf