“Mae'r grwpiau newydd a'r degau o Cds safonol sydd wedi eu cynhyrchu yn y blynyddoedd diwethaf yn tystio i sefyllfa gref y sin roc Gymraeg ar hyn o bryd, ac yn dangos newid yn niwylliant canu pop. Erbyn hyn mae na lai o ganu 'gwleidyddol' nag a fu, ac mae hynny'n ryw arwydd o hyder, gan ddangos nad yw pobl yn teimlo'r un angen i wneud hynny bellach... Roedd y sefyllfa ar ddechrau'r 80au'n dra gwahanol yn dilyn methiant datganoli '79. Bryd hynny chwalwyd byd cysurus y sîn roc Gymraeg a disodlwyd merddwr a diffyg cyfeiriad gan gynnwrf ac ansicrwydd cyffrous wrth i ddegau o grwpiau newydd rebelio yn y Gymraeg.”
Mae Pwyll ap Siôn, a ysgrifennodd ragair i Ble Wyt Ti Rhwng? yn ategu'r cyferbyniad rhwng y cyfnod presennol a dechrau'r 80au: “Roedd dechrau'r 80au yn gyfnod pan oedd canu pop wedi dod i oed... pan gysylltwyd y cyfrwng yn ddiwahân a'r iaith Gymraeg ac roedd canu yn yr iaith honno'n ddatganiad gwleidyddol, gwrthsefydliadol yn ei hun.”
Mae'r trafod ar yr iaith yn ran allweddol o'r gyfrol gyda phawb o'r grwpiau, y gwyliau, y cefnogwyr a'r cyfryngau yn troedio rhwng dau ddiwylliant yn y cyfnod. Ac er y newid a fu yn y sîn roc ei hun, cafwyd croeso gwresog i Ble Wyt Ti Rhwng? gan yr arbenigwyr, gyda Rhys Mwyn yn gweld y gyfrol yn “gofnod eithriadol bwysig a fydd, gobeithio, yn codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'r traddodiad roc a phop Cymraeg”.
Mae Ble Wyt Ti Rhwng yn ddilyniant i Be Bop a Lula'r Delyn Aur a gyrhaeddodd y tri uchaf yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2002. Mae'n olrhain dylanwad y cyfryngau ar ganu pop, y dadlau ynghylch canu yn Saesneg a'r llwyddiant a ddaeth i rai o gewri'r byd roc Cymraeg yn Saesneg, yn cynnwys Gruff Rhys sydd ar glawr y gyfrol. Daw'r awdur o ardal Crymych, Sir Benfro, ac mae'n newyddiadurwr adnabyddus sydd ar hyn o bryd yn gweithio ac yn byw ym Maenclochog.
I gloi'r lansiad cafwyd set acwstig gan Gwyneth Glyn oedd yn cynnwys rhai o'i chaneuon gwreiddiol yn ogystal ag ambell i hen glasur o'r 80au.
Lluniau eraill o Wyl y Bedwen Lyfrau










