Iestyn Hughes
Mae Iestyn Hughes yn ffotograffydd o fri sydd wedi byw yng Ngheredigion ers blynyddoedd. Daw'n wreiddiol o Fiwmaris. Bu'n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn datblygu'r Archif Genedlaethol Sgrin a Sain am dros ddau ddegawd, cyn dechrau cwmni ei hun, Atgof. Mae ei luniau wedi ymddangos mewn amryw o lyfrau a phapurau newydd ar draws y DU ac yn rhyngwladol.