Osian Roberts
Ganed Osian Roberts ar Ynys Môn a derbynodd ysgoloriaeth i astudio ac hyfforddi ym Mhrifysgol Furman, Unol Daleithiau. Chwaraeodd yn y Gynghrair Soccer Proffesiynnol Americanaidd dros y New Mexico Chiles cyn symud yn ôl i Gymru a gweithio fel Swyddog Datblygu Pêl-droed Ynys Môn. Fe hyfforddodd clwb pêl-droed Porthmadog cyn symud i weithio gyda tîm cenedlaethol Cymru. Fe apwyntwyd yn reolwr cynorthwyedig i'r tîm cenedlaethol yn 2015.