Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Dwayne Peel

Dwayne Peel

Mae Dwayne Peel yn gyn-chwarae rygbi'r undeb yng Nghymru. Yn ystod ei gyrfa, dalodd y teitl o mewnwr a oedd wedi cael y mwyaf o capiau i Gymru, gyda 76 o gapiau. Dechreuodd ei yrfa yn chwarae i Glwb y Tymbl tra yn yr ysgol gynradd, cyn ymuno a chlwb proffesiynol, sef Llanelli, cyn symud i'r Llanelli Scarlets pan grëwyd yn 2003. Cafodd ei gap cyntaf dros Gymru yn 2001 yn erbyn Siapan. Roedd yn astudio am radd Daearyddiaeth ar y pryd ym Mhrifysgol Abertawe. Yn 2005, chwaraeodd i'r Llewod yn Seland Newydd – yn aelod ifancaf o'r tîm. Daeth yn gapten o dîm Cymru yn 2007 ac enillodd y gêm gyntaf o Cwpan Rygbi'r Byd yn erbyn Canada. Chwareodd hefyd yn nhîm y Barbariaid yn 2013 yn erbyn Lloegr a'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig. Ymunodd â'r Sale Sharks ar ddiwedd tymor 2007-08 cyn symud i Bristol Rugby yn 2014-15. Bu rhaid i Dwayne Peel ymddeol yn 2016 oherwydd anaf i'w ysgwydd. Yn 2017, dechreuodd weithio i glwb Ulster fel Hyfforddwr Cynorthwyol.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Dwayne Peel: Hunangofiant

- Dwayne Peel
£9.95 £2.00