Jeb Loy Nichols
Cafodd yr arlunydd, cerddor ac awdur Jeb Loy Nicholas ei fagu yng nghanol-gorllewin America. Yn 17, symudodd i Efrog Newydd; pedwar mlynedd yn ddiweddarach symudodd i Lundain. Mae Jeb wedi arddangos ei gelfwaith yn Llundain, Tokyo, Berlin a Chaerdydd. Mae hefyd yn ganwr sy'n ysgrifennu caneuon ei hun, ac fel aelod o Fellow Travellers a fel artist solo, mae ganddo sawl albwm i'w enw. Mae Jeb yn byw ger Y Trallwng a mae'n parhau i arddangos ei waith, creu cerddoriaeth ac ysgrifennu.