Mal Pope
Mae Mal Pope yn gyfansoddwr a cherddor Cymraeg. Anfonwyd un o dapiau Mal at John Peel, BBC Radio 1 yn ystod y 1970au gan ei frawd. Cafodd fynd i chwarae i'r BBC ac yn sgil cafodd cytundeb recordio gyda The Rocket Record Company. Graddiodd o Coleg yr Iesu, Caergrawnt yn 1981 ac aeth i weithio i BBC Radio Wales yn 1982. Erbyn hyn mae wedi cyflwyno nifer o raglenni ar y teledu a'r radio yn ymwneud a cherddoriaeth. Cafodd ei sioe gerdd 'Amazing Grace', sydd wedi selio ar y Diwygiad Cymraeg 1904, clod anferthol am ei berfformiadau yn y Grand Theatre Abertawe, theatrau Caerdydd a Theatr Clwyd. Yn 2006 perfformwyd yng Nghanolfan y Mileniwm – y sioe gerdd gwreiddiol Cymraeg cyntaf i ymddangos ar ei lwyfan.