Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dafydd Marks

Brodor o Ddyffryn Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin oedd yr awdur. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, ac aeth oddi yno i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna i Goleg Iesu, Rhydychen. Bu'n Offeiriad ym mhlwyf Llandeilo, Llangathen a Llanddewi-y-crwys. Ym 1956 fe'i hapwyntiwyd yn bennaeth Adran y Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan ac yn Llanbed y treuliodd weddill ei fywyd. Bu farw yn 1999.

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Cerddi'r Coleg a'r Coler

- Dafydd Marks
£5.95