Joyce Jones
Ganed Joyce Jones ym Mhorthmadog. Ar ol gadael Ysgol Eifionydd, aeth i'r Coleg Normal, Bangor, ac wedyn i goleg Battersea, Llundain, lle arbenigodd mewn Cynllunio Tecstiliau. Bu'n dysgu'r grefft mewn ysgolion yn East End Llundain ac yn y Rhyl am rai blynyddoedd. Dechreuodd ymddiddori yn y grefft o weithio sampleri, a'i hanes, tra'n gwella ar ol cyfnod maith o afiechyd.