R. Elwyn Hughes
Addysgwyd R Elwyn Hughes mewn ysgolion lleol ym Maesyfed ac yng Ngholeg Santes Catrin, Caergrawnt lle bu'n Ysgolor yn y Gwyddorau Naturiol. Bu'n Ddarllenydd mewn Biocemeg Maeth yng Ngholeg Technegol Uwch Cymru (Caerdydd) tan ei ymddeoliad yn 1989. Cafodd ei ethol yn FIBiol. Am gyfnod, bu'n Gyfarwyddwr y Gymdeithas er Hyrwyddo Addysg am Fwydydd (Llundain). Roedd yn arbenigo mewn fitamin C a ffibr mewn bwydydd. Bu'n ddylanwad mawr o'r 1960au mewn Gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg. Yn 1983 anrhydeddwyd gyda Urdd Derwydd yn Orsedd y Beirdd am ei gyfraniad at Wyddoniaeth a'r Iaith Gymraeg. Bu farw R. Elwyn Hughes yn 2005.