Iolo ap Gwyn
Ganwyd yn Llundain, yn fab i Harri Gwynn ac Eirwen Gwynn (y fenyw gyntaf i dderbyn gradd mewn Ffiseg o Brifysgol Cymru, Bangor). Yn 1950 symudodd y teulu i Ogledd Cymru. Yn sgil ei fagwraeth agos i natur, datblygodd ddiddordeb cynnar ym myd natur, ag arweiniodd at raddau BSc a PhD mewn Swoleg o Brifysgol Aberystwyth. Wrth fyw mor agos at fynyddoedd Eryri, datblygodd hefyd gariad at fynyddoedd a mynydda. Roedd yn aelod sefydliadol a Chadeirydd cyntaf Clwb Mynydda Cymru. Mae Iolo yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ac yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru a Chanolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth. Mae Iolo ap Gwyn wedi ymddeol o'i swydd fel Uwch-Ddarlithydd Swoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
https://humanism.org.uk/about/our-people/patrons/dr-iolo-ap-gwynn-frms/