Sgwrs gyda Alwyn Humphreys
Sut brofiad oedd ysgrifennu eich hunangofiant?
Unwaith roeddwn i'n sylweddoli 'mod i'n mynd i allu cyflawni'r dasg o gyrraedd yr isafswm o 45,000 o eiriau mi ddechreuais ymlacio a mwynhau llawer mwy. Y broblem wedyn oedd stopio! Pan gyrhaeddais yr uchafswm awgrymedig o 60,000 roeddwn i'n dal i fynd a llawer eto i'w ddweud! Fe fu'n rhaid i mi ofyn i'r Lolfa a oedd hyn yn broblem. Yn ffodus, doedd hi ddim ac fe es ymlaen i gyrraedd 74,000 yn y diwedd!
O ran ail-fyw profiadau'r gorffennol roedd yn naturiol yn gymysgedd o'r pleserus a'r trist. Ond, doeddwn i ddim yn disgwyl y byddwn yn sylweddoli am y tro cynta, ac yn teimlo mor gryf ynglyn a'r ffaith ein bod ni blant Cymraeg pentrefol Ynys Mon wedi profi cymaint o anhegwch wrth gael ein symud wedyn i ysgol gyfun enfawr cwbl Seisnig ei hiaith. Er bod yr 11 plus wedi cael ei diddymu, fe gawsom ni brofion yn yr ysgol uwchradd yn yr wythnos gynta a'r rheiny mewn iaith hollol estron! Mae'n syndod i ni oroesi cystal. Dwi'n teimlo'n flin am y peth heddiw.
Yn y llyfr rydych yn datgelu i chi gael salwch difrifol tua 30 mlynedd yn ôl, sut effeithiodd hynny ar weddill eich bywyd?
Mae'r profiad o fod mor agos at farwolaeth ('near death experience' fel mae'r Sais yn dweud) yn cael dylanwad aruthrol ar berson. I ddechrau, ar ol i mi wella, mi wnes i feddwl am bob dydd, bob wythnos, a phob mis fel bonws - rhyw estyniad o'r bywyd roeddwn i wedi gael hyd hynny. Hefyd mae'n debyg bod llawdriniaeth ar yr ymennydd yn gallu newid personoliaeth rhywun. Rwy'n ceisio dadansoddi hyn yn y llyfr, ond y prif ganlyniad oedd i mi benderfynu dod o hyd i'r llawfeddyg John Miles, wnaeth achub fy mywyd yn Ysbyty Walton, Lerpwl, 30 mlynedd ynghynt. Roeddwn i am ddiolch iddo a chael ei lun yn fy hunangofiant.
Buoch yn arwain côr Orpheus Treforys am Chwarter Canrif, beth fyddech chi'n ddweud oedd uchafbwytiau ac isafbwyntiau'r cyfnod hwnnw?
Heb amheuaeth yr uchafbwynt oedd perfformio yn Carnegie Hall, Efrog Newydd dim ond 5 wythnos ar ol 9/11. Roedd hi'n noson hynod emosiynol a bythgofiadwy, ac fe fuaswn i'n rhoi unrhywbeth i gael ei hail-fyw. Fe gawsom ni 5 'standing ovation' y noson honno.
O ran yr isafbwyntiau, mewn cor oedd a chyfran uchel o ddynion oedrannus, roedd marwolaeth cantorion da yn ddigalon iawn. Roedd rhywun yn gorfod ailadeiladu o hyd.
Mae'r gyfrol yn llawn straeon am y cythraul canu, ydi pethau gynddrwg y dyddiau yma ag oedden nhw chwarter canrif yn ôl?
Mae'r cythraul canu yn dal yn fyw ac yn iach yng Nghymru ac fe fydd am byth! Efo llai o gorau meibion yn cystadlu mewn eisteddfodau y dyddiau hyn fe fyddech yn meddwl y byddai llai o ymgecru. Ond ddim o gwbl! Cenfigen, wrth gwrs, sydd wrth wraidd y cyfan.
Beth yw'ch barn am safon y corau yng Nghymru ar hyn o bryd?
O safbwynt corau newydd ifanc - corau cymysg gan fwya - mae llawer i lawenhau yn ei gylch. Ond, mae gen i ofn bod y corau meibion yn gwanhau ac yn prinhau. Ac yn union fel y capeli mae'n nhw'n anfodlon iawn i uno hyd yn oed pan fo'u nifer yn isel iawn. Ffactor arall hynod bwysig yw'r prinder dybryd o arweinyddion corawl cymwys yng Nghymru. Heb arweinyddion wnaiff y sefyllfa byth wella.
Pa fath o ymateb rydych chi'n ei ddisgwyl i'r llyfr?
Does gen i ddim syniad! Rwy'n wirioneddol nerfus ynglyn a'r holl beth! Wedi'r cyfan, doeddwn i ddim wedi sgwennu brawddeg cyn hyn!
Ydych chi'n mwynhau'r gwaith o gyflwyno ar y cyfryngau? Ydych chi'n colli'r wefr o arwain?
Er mai anfoddog iawn oeddwn i i fod yn gyflwynydd radio a theledu ar y cychwyn, dwi bellach yn eitha mwynhau. Mae'n waith sydd bob amser yn ddiddorol ac yn wir yn fraint o gael bod yn gyfrwng cysylltu a phobl.
O ran yr arwain, dwi'n dal i wneud hynny - fel arweinydd gwadd corau meibion unedig (yma a thramor), ac fel un o arweinyddion Cerddorfa Siambr Cymru mewn cyngherddau misol 'dan olau cannwyll'.
Beth nesa?
Dwi'n gobeithio arafu cryn dipyn! Ar ol cael bywyd hynod o brysur rhwng popeth dwi'n bwriadu gwneud llai a llai o hyn ymlaen. Ar y llaw arall dwi'n gobeithio na fyddaf byth yn gorfod ymddeol yn gyfangwbl - mi fyddai hynny'n hynod o ddiflas.
Lluniau o'r Lansiadau yn y Mochyn Du ac yn Neuadd Gymunedol Bodffordd















